Sistema Cymru – Codi’r To
Hysbyseb: Swyddog Codi Arian (rhan-amser)
Mae Sistema Cymru – Codi’r To wedi derbyn grant i benodi swyddog codi arian profiadol i gefnogi gwaith Codi’r To mewn dwy gymuned ym Mangor a Chaernarfon. Rydyn ni eisiau amrywio’r cyllid a gawn, a hynny drwy ddatblygu dulliau codi arian cymunedol ac ar-lein, rhoddion gan unigolion a chefnogaeth gorfforaethol.
Mae gennym gyllideb o £14,000 am gytundeb 8 mis.
Mae hon yn swydd hyblyg, ran amser, yn addas i unigolyn neu gwmni i ymgeisio amdani.
Mae Sistema Cymru – Codi’r To yn brosiect adfywio cymunedol wedi ei leoli ym Mangor a Chaernarfon, gyda’r nod o ddefnyddio cerddoriaeth fel ffordd o wella bywydau unigolion a chymunedau. Wedi ei ysbrydoli gan y dull El Sistema, In Harmony a’r Big Noise byd enwog, mae’r prosiect yn gweithio gydag ysgolion cynradd a chymunedau i ddarparu profiadau cerddorol a thiwtora offerynnol.
Cytundeb: 8 mis (tan ddiwedd Awst 2021 – ond gyda chyfle i drafod ymestyn y cytundeb)
Cyllideb: £14,000 sydd i gynnwys unrhyw orbenion a chostau cysylltiol.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch lythyr cais a chopi o’ch CV i [email protected]
Neu cysylltwch â’r Cydlynydd, Carys Bowen [email protected] am fwy o wybodaeth.Dyddiad cau: 12 o’r gloch, Dydd Gwener 13eg o Dachwedd 2020
Cliciwch am y disgrifiad swydd isod
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru a weinyddir gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru