Ymchwil ar ran CGGC i Safon Sicrhau Ansawdd posibl ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Rydym wedi ein comisiynu gan CGGC i archwilio’r achos busnes dros ddatblygu safon neu fframwaith ansawdd ar gyfer y sector elusennol a gwirfoddol yng Nghymru.
Rydym am siarad gyda sefydliadau gwirfoddol Cymreig am Farciau Safon – os ydych yn perthyn i un o’r tri chategori canlynol, byddem yn falch iawn i glywed gennych:
- Sefydliadau sydd wedi ennill bathodyn PQASSO / Trusted Charity ac sy’n dal i feddu arno
- Sefydliadau sydd wedi ennill bathodyn PQASSO / Trusted Charity ond sydd heb ei adnewyddu
- Sefydliadau sydd wedi gwneud ymholiadau am fathodyn PQASSO / Trusted Charity ond aeth ddim ymlaen â’u cais a rhai sydd heb ddiddordeb yn y cynllun
Cynhelir pob sgwrs yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant yn para mwy nag 20 munud.
Os hoffech gyfrannu at ein hymchwil, cysylltwch gyda Sharon trwy’r cyfeiriad e-bost isod